Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 5:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Gorchymyn i bobl Israel anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, pob un ac arno waedlif, a phob un a halogwyd trwy gyffwrdd â chorff marw.

3. Anfonwch bob un allan, boed ŵr neu wraig, rhag iddo halogi'r gwersyll yr wyf yn preswylio yn ei ganol.”

4. Gwnaeth pobl Israel hyn, a'u hanfon allan o'r gwersyll, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

6. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd gŵr neu wraig yn cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn rhywun arall, ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, yna y mae'n euog,

7. a dylai gyffesu'r trosedd a gyflawnodd; rhaid iddo wneud iawn amdano trwy dalu'n ôl y cyfan, ac ychwanegu ato'r bumed ran, a'u rhoi i'r sawl y troseddodd yn ei erbyn.

8. Os nad oes gan hwnnw berthynas y gellir talu'n ôl iddo am y trosedd, taler ef i'r ARGLWYDD, trwy'r offeiriad, gyda'r hwrdd a ddefnyddir i wneud cymod dros y troseddwr.

9. Bydd pob offrwm, a'r holl bethau cysegredig y bydd pobl Israel yn eu cyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo;

10. bydd y pethau cysegredig i gyd, a phopeth arall y bydd rhywun yn ei gyflwyno i'r offeiriad, yn eiddo iddo.’ ”

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 5