Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. O'r dinasoedd sy'n feddiant i bobl Israel cymerwch lawer oddi wrth y llwythau mawr, ond llai oddi wrth y llwythau bychain; y mae pob llwyth i roi dinasoedd i'r Lefiaid yn ôl maint yr etifeddiaeth a gafodd.”

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi mynd dros yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan,

11. yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt.

12. Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.

13. O'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,

14. bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.

15. Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.

16. “ ‘Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

17. Os bydd yn ei daro â charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

18. Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

19. Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 35