Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35:13-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. O'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,

14. bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.

15. Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.

16. “ ‘Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

17. Os bydd yn ei daro â charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

18. Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

19. Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

20. Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall mewn casineb, neu'n ymosod arno'n fwriadol, ac yntau'n marw;

21. neu ynteu'n taro rhywun â'i law mewn atgasedd, ac yntau'n marw, yna rhodder y sawl a'i trawodd i farwolaeth; y mae'n llofrudd, a chaiff y sawl sy'n dial gwaed ei roi i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

22. “ ‘Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall yn sydyn, a heb atgasedd, neu os bydd yn taflu rhywbeth ato'n anfwriadol,

23. neu ynteu heb edrych yn ei daro â charreg a fyddai'n debyg o'i ladd, ac yntau'n marw, yna, gan na fu gelyniaeth rhyngddynt a chan na fwriadodd ei niweidio,

24. y mae'r cynulliad i farnu rhwng yr ymosodwr a'r dialydd gwaed, yn ôl y deddfau hyn;

25. a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n ôl yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd â'r olew cysegredig.

26. Ond os â'r lleiddiad rywbryd y tu allan i derfynau'r ddinas noddfa y ffodd iddi,

27. a'r dialydd gwaed yn ei ganfod a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed.

28. Rhaid i'r lleiddiad aros tu mewn i'w ddinas noddfa nes marw'r archoffeiriad; ond ar ôl marw'r archoffeiriad, caiff ddychwelyd i'r tir sy'n feddiant iddo.

29. “ ‘Bydd hyn yn ddeddf ac yn gyfraith i chwi trwy eich cenedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw.

30. Os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhodder ef i farwolaeth ar dystiolaeth tystion; ond na rodder neb i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.

31. Peidiwch â chymryd arian yn iawn am fywyd llofrudd a gafwyd yn euog o ladd; rhodder ef i farwolaeth.

32. Peidiwch â chymryd arian yn iawn gan y sawl a ffodd i'w ddinas noddfa, er mwyn iddo gael dychwelyd i fyw i'w dir ei hun cyn marw'r archoffeiriad.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 35