22. dim ond aur, arian, pres, haearn, alcam a phlwm,
23. sef popeth sy'n gallu gwrthsefyll tân, sydd i'w dynnu trwy dân er mwyn ei buro, a'i lanhau â dŵr puredigaeth; y mae popeth na all wrthsefyll tân i'w dynnu trwy'r dŵr yn unig.
24. Golchwch eich dillad ar y seithfed dydd, a byddwch lân; yna cewch ddod i mewn i'r gwersyll.”
25. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
26. “Yr wyt ti, Eleasar yr offeiriad, a phennau-teuluoedd y cynulliad, i gyfrif yr ysbail a gymerwyd, yn ddyn ac anifail,
27. a'i rannu'n ddau rhwng y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr a'r holl gynulliad.
28. Oddi wrth y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr, cymer yn dreth i'r ARGLWYDD un o bob pum cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, neu ddefaid.
29. Cymerwch hyn o'u hanner hwy, a'i roi i Eleasar yr offeiriad fel offrwm i'r ARGLWYDD.
30. Yna, o'r hanner sy'n eiddo i bobl Israel, cymer un o bob hanner cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, defaid neu anifeiliaid eraill, a'u rhoi i'r Lefiaid sy'n gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD.”
31. Gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
32. Dyma'r ysbail oedd yn weddill o'r hyn a gymerodd y rhyfelwyr: chwe chant saith deg pump o filoedd o ddefaid,
33. saith deg dwy o filoedd o eidionau,
34. chwe deg un o filoedd o asynnod,
35. a thri deg dwy o filoedd o bobl, sef pob merch nad oedd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn.
36. Yr oedd cyfran y rhyfelwyr yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
37. ac yr oedd chwe chant saith deg a phump o'r defaid yn dreth i'r ARGLWYDD;
38. yr oedd tri deg chwech o filoedd o eidionau, a saith deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;
39. yr oedd tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, a chwe deg ac un ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;