Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 29:32-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. “Ar y seithfed dydd: saith bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,

33. gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;

34. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.

35. “Ar yr wythfed dydd, yr ydych i gynnal cynulliad, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol.

36. Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef bustach, hwrdd, a saith oen blwydd di-nam,

37. gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustach, yr hwrdd, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;

38. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.

39. “Dyma'r hyn yr ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD ar eich gwyliau penodedig, yn ychwanegol at eich offrymau adduned a'ch offrymau gwirfodd, eich poethoffrymau, eich bwydoffrymau, eich diodoffrymau, a'ch heddoffrymau.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 29