Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 29:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol. Bydd yn ddiwrnod i chwi ganu'r utgyrn

2. ac offrymu poethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;

3. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,

4. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

5. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.

6. Y mae hyn yn ychwanegol at y poethoffrwm misol a'i fwydoffrwm, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrwm, yn ôl y ddeddf ar eu cyfer; byddant yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

7. “Ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; yr ydych i ymddarostwng, a pheidio â gwneud dim gwaith.

8. Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;

9. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,

10. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 29