Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 28:14-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Bydd hanner hin o win yn ddiodoffrwm ar gyfer bustach, traean hin ar gyfer hwrdd, a chwarter hin ar gyfer oen. Dyna fydd y poethoffrwm bob mis trwy gydol y flwyddyn.

15. Hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD; bydd hwn yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

16. “Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD.

17. Ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn bydd gŵyl, ac am saith diwrnod bwyteir bara croyw.

18. Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol,

19. ond cyflwynwch offrwm trwy dân yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;

20. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd,

21. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

22. hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.

23. Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.

24. Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

25. Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol.

26. “Ar ddydd blaenffrwyth y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â bwydoffrwm newydd i'r ARGLWYDD yn ystod gŵyl yr Wythnosau, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol.

27. Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd;

28. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,

29. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;

30. hefyd un bwch gafr, i wneud cymod drosoch.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 28