1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, ‘Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy dân a'm harogl peraidd.’
3. Dywed wrthynt, ‘Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy dân i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd,
4. un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr;
5. ac yn fwydoffrwm: degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur.
6. Bydd hwn yn boethoffrwm rheolaidd a ordeiniwyd ar Fynydd Sinai i fod yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
7. Yr wyt i dywallt diod gadarn yn ddiodoffrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr, chwarter hin ar gyfer pob oen.
8. Offryma'r oen arall yn yr hwyr yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, fel bwydoffrwm y bore a'i ddiodoffrwm.’
9. “Ar y dydd Saboth: dau oen blwydd di-nam a dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
10. Hwn fydd poethoffrwm y Saboth, sy'n ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
11. “Ar y cyntaf o bob mis yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD ddau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;