8. Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio,neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?
9. Fe'u gwelaf o ben y creigiau,ac edrychaf arnynt o'r bryniau—pobl yn byw mewn unigedd,heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.
10. Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwchneu rifo chwarter Israel?Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn,a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy.”
11. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio.”
12. Atebodd yntau, “Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?”
13. Dywedodd Balac wrtho, “Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi.”
14. Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.
15. Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.”
16. Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”
17. Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, “Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?”
18. Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud:“Cod, Balac, a chlyw:gwrando arnaf, fab Sippor;
19. nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd,neu fod meidrol yn edifarhau.Oni wna yr hyn a addawodd,a chyflawni'r hyn a ddywedodd?
20. Derbyniais orchymyn i fendithio,a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.
21. Ni welodd ddrygioni yn Jacob,ac ni chanfu drosedd yn Israel.Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy,a bloedd y brenin yn eu plith.
22. Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.