4. Daeth Duw i gyfarfod â Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, “Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un.”
5. Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”
6. Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.
7. Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud,“Daeth Balac â mi o Syria,brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain.‘Tyrd,’ meddai, ‘rho felltith ar Jacob imi;tyrd, cyhoedda wae ar Israel.’
8. Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio,neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?
9. Fe'u gwelaf o ben y creigiau,ac edrychaf arnynt o'r bryniau—pobl yn byw mewn unigedd,heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.