Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 23:13-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Dywedodd Balac wrtho, “Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi.”

14. Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.

15. Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.”

16. Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”

17. Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, “Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?”

18. Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud:“Cod, Balac, a chlyw:gwrando arnaf, fab Sippor;

19. nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd,neu fod meidrol yn edifarhau.Oni wna yr hyn a addawodd,a chyflawni'r hyn a ddywedodd?

20. Derbyniais orchymyn i fendithio,a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.

21. Ni welodd ddrygioni yn Jacob,ac ni chanfu drosedd yn Israel.Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy,a bloedd y brenin yn eu plith.

22. Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.

23. Nid oes swyn yn erbyn Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel;yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel,‘Gwaith Duw yw hyn!’

24. Dyma bobl sy'n codi fel llewes,ac yn ymsythu fel llew;nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaethac yfed o waed yr hyn a larpiodd.”

25. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach.”

26. Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”

27. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno.”

28. Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,

29. a dywedodd Balaam wrtho, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.”

30. Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 23