11. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio.”
12. Atebodd yntau, “Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?”
13. Dywedodd Balac wrtho, “Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi.”
14. Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.
15. Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.”
16. Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”
17. Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, “Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?”
18. Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud:“Cod, Balac, a chlyw:gwrando arnaf, fab Sippor;
19. nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd,neu fod meidrol yn edifarhau.Oni wna yr hyn a addawodd,a chyflawni'r hyn a ddywedodd?
20. Derbyniais orchymyn i fendithio,a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.
21. Ni welodd ddrygioni yn Jacob,ac ni chanfu drosedd yn Israel.Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy,a bloedd y brenin yn eu plith.
22. Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.
23. Nid oes swyn yn erbyn Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel;yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel,‘Gwaith Duw yw hyn!’
24. Dyma bobl sy'n codi fel llewes,ac yn ymsythu fel llew;nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaethac yfed o waed yr hyn a larpiodd.”
25. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach.”
26. Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”
27. Dywedodd Balac wrth Balaam, “Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno.”
28. Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,