Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 23:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd Balaam wrth Balac, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.”

2. Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3. Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod â mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi.” Felly aeth ymaith i fryn uchel.

4. Daeth Duw i gyfarfod â Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, “Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un.”

5. Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”

6. Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.

7. Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud,“Daeth Balac â mi o Syria,brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain.‘Tyrd,’ meddai, ‘rho felltith ar Jacob imi;tyrd, cyhoedda wae ar Israel.’

8. Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio,neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?

9. Fe'u gwelaf o ben y creigiau,ac edrychaf arnynt o'r bryniau—pobl yn byw mewn unigedd,heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 23