Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 20:5-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Pam y daethost â ni allan o'r Aifft a'n harwain i'r lle drwg hwn? Nid oes yma rawn, na ffigys, na gwinwydd, na phomgranadau, na hyd yn oed ddŵr i'w yfed.”

6. Yna aeth Moses ac Aaron o ŵydd y gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod, ac ymgrymu. Ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt,

7. a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

8. “Cymer y wialen, a chynnull y gynulleidfa gyda'th frawd Aaron, ac yn eu gŵydd dywed wrth y graig am ddiferu dŵr; yna byddi'n tynnu dŵr o'r graig ar eu cyfer ac yn ei roi i'r gynulleidfa a'i hanifeiliaid i'w yfed.”

9. Felly cymerodd Moses y wialen oedd o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnwyd iddo.

10. Cynullodd Moses ac Aaron y gynulleidfa o flaen y graig, a dweud wrthynt, “Gwrandewch, yn awr, chwi wrthryfelwyr; a ydych am inni dynnu dŵr i chwi allan o'r graig hon?”

11. Yna cododd Moses ei law, ac wedi iddo daro'r graig ddwywaith â'i wialen, daeth llawer o ddŵr allan, a chafodd y gynulleidfa a'u hanifeiliaid yfed ohono.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Am i chwi beidio â chredu ynof, na'm sancteiddio yng ngŵydd pobl Israel, ni fyddwch yn dod â'r gynulleidfa hon i mewn i'r wlad a roddais iddynt.”

13. Dyma ddyfroedd Meriba, lle y bu'r Israeliaid yn ymryson â'r ARGLWYDD, a lle y datguddiodd ei hun yn sanctaidd iddynt.

14. Anfonodd Moses genhadon o Cades at frenin Edom i ddweud, “Dyma a ddywed dy frawd Israel: ‘Fe wyddost am yr holl helbulon a ddaeth i'n rhan,

15. sut yr aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft, sut y buom yn byw yno am amser maith, a sut y cawsom ni a'n hynafiaid ein cam-drin gan yr Eifftiaid;

16. ond pan waeddasom ar yr ARGLWYDD, fe glywodd ein cri, ac anfonodd angel i'n harwain allan o'r Aifft.

17. A dyma ni yn Cades, dinas sydd yn ymyl dy diriogaeth di. Yn awr, gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am fynd trwy dy gaeau a'th winllannoedd, nac am yfed dŵr o'r ffynhonnau, ond fe gadwn at briffordd y brenin, heb droi i'r dde na'r chwith, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.’ ”

18. Ond dywedodd Edom wrtho, “Ni chei fynd trwodd, neu fe ddof yn dy erbyn â chleddyf.”

19. Dywedodd pobl Israel wrtho, “Nid ydym am fynd ond ar hyd y briffordd, ac os byddwn ni a'n hanifeiliaid yn yfed dy ddŵr, fe dalwn amdano; ni wnawn ddim ond cerdded trwodd.”

20. Ond dywedodd ef, “Ni chei di ddim mynd.” Daeth Edom allan yn eu herbyn gyda byddin fawr o ddynion,

21. a gwrthododd adael i Israel fynd trwy ei dir; felly fe drodd Israel ymaith oddi wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 20