Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 20:20-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Ond dywedodd ef, “Ni chei di ddim mynd.” Daeth Edom allan yn eu herbyn gyda byddin fawr o ddynion,

21. a gwrthododd adael i Israel fynd trwy ei dir; felly fe drodd Israel ymaith oddi wrtho.

22. Aeth holl gynulleidfa pobl Israel o Cades, a chyrraedd Mynydd Hor.

23. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron ym Mynydd Hor, a oedd ar derfyn gwlad Edom,

24. “Cesglir Aaron at ei bobl; ni chaiff fynd i mewn i'r wlad a roddais i bobl Israel, am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn wrth ddyfroedd Meriba.

25. Felly tyrd ag Aaron a'i fab Eleasar i fyny Mynydd Hor,

26. a chymer y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar; yna bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl, ac yn marw yno.”

27. Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac aethant i fyny Mynydd Hor, a'r holl gynulleidfa yn eu gwylio.

28. Cymerodd Moses y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar, a bu Aaron farw yno ar ben y mynydd.

29. Yna daeth Moses ac Eleasar i lawr o ben y mynydd, a phan sylweddolodd yr holl gynulleidfa fod Aaron wedi marw, wylodd holl dŷ Israel amdano am ddeg diwrnod ar hugain.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 20