Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 2:26-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.

27. Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,

28. a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.

29. Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,

30. a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.

31. Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”

32. Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn ôl eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn ôl eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.

33. Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 2