Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 2:22-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,

23. a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.

24. Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.

25. “Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,

26. a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.

27. Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,

28. a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.

29. Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,

30. a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.

31. Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”

32. Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn ôl eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn ôl eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.

33. Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.

34. Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn ôl eu teuluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 2