Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 18:23-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,

24. oherwydd fe roddaf yn etifeddiaeth iddynt hwy y degwm a gyflwynir gan bobl Israel yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam y dywedais wrthynt na fydd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith pobl Israel.”

25. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

26. “Dywed hefyd wrth y Lefiaid, ‘Pan gymerwch gan bobl Israel y degwm a roddais i chwi'n etifeddiaeth, yr ydych i gyflwyno ohono offrwm i'r ARGLWYDD, sef degwm o'r degwm.

27. Fe gyfrifir eich offrwm i chwi fel petai'n ŷd o'r llawr dyrnu neu'n sudd o'r gwinwryf.

28. Felly yr ydych chwithau hefyd i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD o'r holl ddegymau a dderbyniwch gan bobl Israel, ac y mae'r hyn sy'n offrwm i'r ARGLWYDD i'w roi i Aaron yr offeiriad.

29. Yr ydych i offrymu'n offrwm i'r ARGLWYDD y gorau a'r mwyaf sanctaidd o'r cyfan a dderbyniwch.’

30. Dywed wrthynt hefyd, ‘Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, cyfrifir y gweddill i'r Lefiaid fel petai'n gynnyrch y llawr dyrnu a'r gwinwryf;

31. cewch chwi a'ch teulu ei fwyta mewn unrhyw le, oherwydd dyma eich tâl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

32. Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, ni fyddwch yn atebol am unrhyw bechod o'i herwydd, ac ni fyddwch yn halogi pethau cysegredig pobl Israel. Felly, ni fyddwch farw.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 18