Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 18:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Bydd y cyntaf a ddaw allan o'r groth ac a offrymir i'r ARGLWYDD, yn ddyn neu anifail, yn eiddo i ti; ond yr wyt i brynu'n ôl y plentyn cyntafanedig o'r bobl, a'r cyntafanedig o bob anifail aflan.

16. Yr wyt i'w prynu'n ôl yn fis oed, a thalu'r tâl penodedig o bum sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.

17. Ond nid wyt i brynu'n ôl y cyntafanedig o ych, na dafad na gafr, oherwydd y maent hwy'n gysegredig. Yr wyt i daenellu eu gwaed ar yr allor, a llosgi'r braster yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD;

18. ond bydd eu cig yn eiddo i ti, fel y mae'r frest a chwifir, a'r glun dde, yn eiddo i ti.

19. Rhoddaf i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth yr holl offrymau sanctaidd a gyflwynir gan bobl Israel i'r ARGLWYDD; bydd hyn yn gyfamod halen am byth gerbron yr ARGLWYDD i ti a'th ddisgynyddion gyda thi.”

20. Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aaron, “Ni chei di etifeddiaeth yn eu tir na chyfran yn eu mysg; myfi yw dy gyfran di a'th etifeddiaeth ymysg pobl Israel.

21. “Yr wyf yn rhoi yn etifeddiaeth i'r Lefiaid bob degwm yn Israel, yn dâl am eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

22. Nid yw'r Israeliaid mwyach i ddynesu at babell y cyfarfod, neu byddant yn atebol am eu pechod ac yn marw.

23. Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,

24. oherwydd fe roddaf yn etifeddiaeth iddynt hwy y degwm a gyflwynir gan bobl Israel yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam y dywedais wrthynt na fydd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith pobl Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 18