Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod â thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt.”

18. Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod;

19. ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad.

20. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

21. “Ymwahanwch oddi wrth y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.”

22. Ond syrthiasant hwy ar eu hwynebau, a dweud, “O Dduw, Duw ysbryd pob cnawd, a wyt am ddigio wrth yr holl gynulliad am fod un dyn wedi pechu?”

23. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

24. “Dywed wrth y cynulliad am fynd ymaith oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram.”

25. Cododd Moses ac aeth at Dathan ac Abiram, a dilynodd henuriaid Israel ef.

26. Yna dywedodd wrth y cynulliad, “Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch â chyffwrdd â dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy.”

27. Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28. Dywedodd Moses, “Cewch wybod trwy hyn mai'r ARGLWYDD a'm hanfonodd i wneud yr holl bethau hyn, ac nad o'm dyfais fy hun y gwneuthum hwy.

29. Os bydd y dynion hyn farw'n naturiol, a phrofi'r un ffawd ag sy'n dod yn arferol i bobl, yna nid yw'r ARGLWYDD wedi fy anfon.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16