Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 14:31-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Ond am eich plant, y dywedasoch chwi y byddent yn ysbail, dof â hwy i mewn i ddarostwng y wlad yr ydych chwi wedi ei dirmygu,

32. tra byddwch chwi'n syrthio'n farw yn yr anialwch.

33. Bydd eich plant yn crwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd ac yn dioddef am eich anffyddlondeb chwi, nes i'r olaf ohonoch farw yn yr anialwch.

34. Am ddeugain mlynedd, sef blwyddyn am bob un o'r deugain diwrnod y buoch yn ysbïo'r wlad, byddwch yn dioddef am eich drygioni ac yn gwybod am fy nigofaint.’

35. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; byddaf yn sicr o wneud hyn i bob un o'r cynulliad drygionus hwn sydd wedi cynllwyn yn f'erbyn. Y mae'r diwedd ar eu gwarthaf, a byddant farw yn yr anialwch hwn.”

36. Felly, am y dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad, sef y rhai a ddychwelodd â'r adroddiad gwael amdani, a pheri i'r holl gynulliad rwgnach yn ei erbyn,

37. eu tynged oedd marw trwy bla gerbron yr ARGLWYDD.

38. Ond o'r dynion hynny a aeth i ysbïo'r wlad, cafodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne fyw.

39. Pan ddywedodd Moses hyn wrth yr holl Israeliaid, dechreuodd y bobl alaru'n ddirfawr.

40. Codasant yn fore drannoeth a dringo i'r mynydd-dir, a dweud, “Edrychwch, awn i fyny i'r lle y dywedodd yr ARGLWYDD amdano; oherwydd yr ydym wedi pechu.”

41. Ond dywedodd Moses, “Pam yr ydych yn troseddu yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn llwyddo.

42. Peidiwch â mynd i fyny rhag i'ch gelynion eich difa, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gyda chwi.

43. Y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid o'ch blaen, a byddwch yn syrthio trwy fin y cleddyf; ni fydd yr ARGLWYDD gyda chwi, am eich bod wedi cefnu arno.”

44. Eto, yr oeddent yn benderfynol o ddringo i'r mynydd-dir, er nad aeth Moses nac arch cyfamod yr ARGLWYDD allan o'r gwersyll.

45. Yna daeth yr Amaleciaid a'r Canaaneaid a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw i lawr yn eu herbyn, a'u herlid hyd Horma.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 14