Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 13:23-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd â phomgranadau a ffigys.

24. Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno.

25. Ar ôl ysbïo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn ôl

26. i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir.

27. Dywedasant wrth Moses, “Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a mêl, a dyma beth o'i ffrwyth.

28. Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac.

29. Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y môr, a gerllaw'r Iorddonen.”

30. Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, “Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu.”

31. Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, “Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni.”

32. Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo, a dweud, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth.

33. Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 13