24. Aeth Moses ymaith a mynegi i'r bobl eiriau'r ARGLWYDD; yna casglodd ddeg a thrigain o henuriaid y bobl a'u gosod o amgylch y babell.
25. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn cwmwl, a llefaru wrtho, a chymerodd yr ARGLWYDD beth o'r ysbryd oedd arno ef a'i roi ar yr henuriaid, y deg a thrigain ohonynt; pan orffwysai'r ysbryd arnynt, byddent yn proffwydo, ond ni wnaent ragor na hynny.
26. Arhosodd dau o'r dynion yn y gwersyll; eu henwau oedd Eldad a Medad, a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwythau. Yr oeddent hwy ymhlith y rhai a gofrestrwyd, ond am nad oeddent wedi mynd allan i'r babell, proffwydasant yn y gwersyll.
27. Pan redodd llanc ifanc a mynegi i Moses fod Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll,
28. dywedodd Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses o'i ieuenctid, “Moses, f'arglwydd, rhwystra hwy.”
29. Ond dywedodd Moses wrtho, “Ai o'm hachos i yr wyt yn eiddigeddus? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, ac y byddai ef yn rhoi ei ysbryd arnynt!”
30. Yna dychwelodd Moses a henuriaid Israel i'r gwersyll.
31. Anfonodd yr ARGLWYDD wynt a barodd i soflieir ddod o'r môr a disgyn o amgylch y gwersyll; yr oeddent tua dau gufydd uwchlaw wyneb y tir, ac yn ymestyn dros bellter o daith diwrnod o bob tu i'r gwersyll.
32. Cododd y bobl, a chasglu'r soflieir trwy gydol y dydd hwnnw, trwy'r nos, a thrwy'r dydd drannoeth nes bod yr un a gasglodd leiaf wedi casglu deg homer; yna rhannwyd hwy ymhlith ei gilydd o amgylch y gwersyll.
33. Pan oedd y cig rhwng eu dannedd yn barod i'w gnoi, enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl, a thrawodd hwy â phla mawr iawn.
34. Felly galwyd y lle hwnnw yn Cibroth-hattaafa, oherwydd yno y claddwyd y bobl oedd â chwant arnynt.
35. Yna aethant o Cibroth-hattaafa i Haseroth, ac aros yno.