Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tân yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll.

2. Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân.

3. Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.

4. Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta?

5. Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg;

6. ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna.”

7. Yr oedd y manna fel had coriander, ac o'r un lliw â grawnwin.

8. Âi'r bobl o amgylch i'w gasglu, ac wedi iddynt ei falu mewn melinau, ei guro mewn morter, a'i ferwi mewn crochanau, gwnaent deisennau ohono. Yr oedd ei flas fel petai wedi ei bobi ag olew.

9. Pan ddisgynnai'r gwlith ar y gwersyll gyda'r nos byddai'r manna yn disgyn hefyd.

10. Clywodd Moses y teuluoedd i gyd yn wylo, pob un yn nrws ei babell; enynnodd llid yr ARGLWYDD yn fawr, a bu'n ddrwg gan Moses.

11. Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pam y gwnaethost dro gwael â'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf?

12. Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, ‘Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid’?

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11