Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:21-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwchheb fod arnynt eisiau dim;nid oedd eu dillad yn treuliona'u traed yn chwyddo.

22. “Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbona gwlad Og brenin Basan.

23. Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd,a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaidam fynd iddi i'w meddiannu.

24. Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;darostyngaist tithau drigolion y wlad,y Canaaneaid, o'u blaen,a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,iddynt wneud fel y mynnent â hwy.

25. Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,pydewau wedi eu cloddio,gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,a mwynhau dy ddaioni mawr.

26. Ond fe aethant yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn.Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,a lladd dy broffwydioedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,a chablu'n ddirfawr.

27. Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr,a chawsant eu gorthrymu.Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat,ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd;yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynti'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.

28. Ond pan gawsant lonydd,dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg.Gadewaist hwy i'w gelynion,a chawsant eu mathru.Unwaith eto galwasant arnat,a gwrandewaist tithau o'r nefoedd,a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.

29. Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith,ond aethant yn falcha gwrthod ufuddhau i'th orchmynion;pechasant yn erbyn dy farnausydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw.Troesant eu cefnau'n ystyfnig,a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.

30. Buost yn amyneddgar â hwyam flynyddoedd lawer,a'u rhybuddio â'th ysbrydtrwy dy broffwydi,ond ni wrandawsant;am hynny rhoddaist hwy yn nwylo pobloedd estron.

31. Ond yn dy drugaredd fawrni ddifethaist hwy yn llwyr na'u gadael,oherwydd Duw graslon a thrugarog wyt ti.

32. “Yn awr, O ein Duw,y Duw mawr, cryf ac ofnadwy,sy'n cadw cyfamod a thrugaredd,paid â diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom—ar ein brenhinoedd a'n tywysogion,ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid,ac ar dy holl bobl—o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.

33. Buost ti yn gyfiawnyn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni;buost ti yn ffyddlon,ond buom ni yn ddrwg.

34. Ni chadwodd ein brenhinoedd na'n tywysogion,ein hoffeiriaid na'n hynafiaid, dy gyfraith;ni wrandawsant ar dy orchmynion,nac ar y rhybuddion a roddaist iddynt.

35. Hyd yn oed yn eu teyrnas eu hunainynghanol y daioni mawr a ddangosaist tuag atynt,yn y wlad eang a thoreithiog a roddaist iddynt,gwrthodasant dy wasanaethua throi oddi wrth eu drwgweithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9