Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:20-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;nid ateliaist dy fanna rhagddynt;rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.

21. Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwchheb fod arnynt eisiau dim;nid oedd eu dillad yn treuliona'u traed yn chwyddo.

22. “Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbona gwlad Og brenin Basan.

23. Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd,a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaidam fynd iddi i'w meddiannu.

24. Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;darostyngaist tithau drigolion y wlad,y Canaaneaid, o'u blaen,a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,iddynt wneud fel y mynnent â hwy.

25. Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,pydewau wedi eu cloddio,gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,a mwynhau dy ddaioni mawr.

26. Ond fe aethant yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn.Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,a lladd dy broffwydioedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,a chablu'n ddirfawr.

27. Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr,a chawsant eu gorthrymu.Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat,ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd;yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynti'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.

28. Ond pan gawsant lonydd,dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg.Gadewaist hwy i'w gelynion,a chawsant eu mathru.Unwaith eto galwasant arnat,a gwrandewaist tithau o'r nefoedd,a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.

29. Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith,ond aethant yn falcha gwrthod ufuddhau i'th orchmynion;pechasant yn erbyn dy farnausydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw.Troesant eu cefnau'n ystyfnig,a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9