Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid.

3. Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw.

4. Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw.

5. A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, “Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb:“Bendithier dy enw gogoneddussy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.

6. Ti yn unig wyt ARGLWYDD.Ti a wnaeth y nefoedd,nef y nefoedd a'i holl luoedd,y ddaear a'r cwbl sydd arni,y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt;ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd,ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.

7. Ti yw yr ARGLWYDD Dduw,ti a ddewisodd Abrama'i dywys o Ur y Caldeaid,a rhoi iddo'r enw Abraham;

8. fe'i cefaist yn ffyddlon i ti,a gwnaethost gyfamod ag ef,i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid,yr Hethiaid, yr Amoriaid,y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid.Ac fe gedwaist dy air,oherwydd cyfiawn wyt ti.

9. “Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft,a gwrandewaist ar eu cri wrth y Môr Coch.

10. Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharoa'i holl weision a holl drigolion ei wlad,am dy fod yn gwybod iddynt ymfalchïo yn eu herbyn;a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.

11. Holltaist y môr o'u blaen,ac aethant drwyddo ar dir sych.Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder,fel carreg i ddyfroedd geirwon.

12. Arweiniaist hwy â cholofn gwmwl liw dydd,a liw nos â cholofn dân,er mwyn goleuo'r ffordd a dramwyent.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9