Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:18-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud,‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’,a chablu'n ddirfawr,

19. yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch.Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwla'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd,na'r golofn dân liw nos,a oleuai'r ffordd a dramwyent.

20. Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;nid ateliaist dy fanna rhagddynt;rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.

21. Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwchheb fod arnynt eisiau dim;nid oedd eu dillad yn treuliona'u traed yn chwyddo.

22. “Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbona gwlad Og brenin Basan.

23. Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd,a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaidam fynd iddi i'w meddiannu.

24. Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;darostyngaist tithau drigolion y wlad,y Canaaneaid, o'u blaen,a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,iddynt wneud fel y mynnent â hwy.

25. Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,pydewau wedi eu cloddio,gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,a mwynhau dy ddaioni mawr.

26. Ond fe aethant yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn.Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,a lladd dy broffwydioedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,a chablu'n ddirfawr.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9