Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 8:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd yr holl bobl fel un yn y sgwâr sydd o flaen Porth y Dŵr. Yna dywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd am ddod â llyfr cyfraith Moses, sef yr un a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Israel.

2. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra yr offeiriad â'r gyfraith o flaen y gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, pawb a fedrai ddeall yr hyn a glywai.

3. Darllenodd rannau ohoni, o doriad gwawr hyd hanner dydd, yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd oedd yn medru deall, gan wynebu'r sgwâr o flaen Porth y Dŵr; a gwrandawodd pawb yn astud ar lyfr y gyfraith.

4. Safodd Esra yr ysgrifennydd ar bulpud pren oedd wedi ei wneud i'r diben. Ar yr ochr dde iddo safodd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia a Maaseia, ac ar y chwith Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Hasbadana, Sechareia a Mesulam.

5. Agorodd Esra y llyfr yng ngolwg yr holl bobl, oherwydd yr oedd ef yn uwch na hwy, a phan agorodd y llyfr, safodd pawb ar eu traed.

6. Bendithiodd Esra yr ARGLWYDD, y Duw mawr, ac atebodd yr holl bobl, “Amen, Amen”, gan godi eu dwylo ac ymgrymu ac addoli'r ARGLWYDD â'u hwynebau tua'r ddaear.

7. Yr oedd y Lefiaid, Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, yn egluro'r gyfraith i'r bobl, a hwythau'n aros yn eu lle.

8. Yr oeddent yn darllen o lyfr cyfraith Dduw, ac yn ei gyfieithu a'i esbonio fel bod pawb yn deall y darlleniad.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 8