31. gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau;
32. gwŷr Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri;
33. gwŷr y Nebo arall, pum deg a dau.
34. Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;
35. teulu Harim, tri chant dau ddeg;
36. teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;
37. teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un;
38. teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg.
39. Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;
40. teulu Immer, mil pum deg a dau;
41. teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;
42. teulu Harim, mil un deg a saith.
43. Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar.