Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan glywodd Sanbalat ein bod yn ailgodi'r mur, gwylltiodd a ffromi drwyddo.

2. Dechreuodd wawdio'r Iddewon yng ngŵydd ei gymrodyr a byddin Samaria a dweud, “Beth y mae'r Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneud? A adewir llonydd iddynt? A ydynt am aberthu a gorffen y gwaith mewn diwrnod? A ydynt am wneud cerrig o'r pentyrrau rwbel, a hwythau wedi eu llosgi?”

3. A dywedodd Tobeia yr Ammoniad, a oedd yn ei ymyl, “Beth bynnag y maent yn ei adeiladu, dim ond i lwynog ddringo'u mur cerrig, fe'i dymchwel.”

4. Gwrando, O ein Duw, oherwydd y maent yn ein dirmygu. Tro eu gwaradwydd yn ôl ar eu pennau eu hunain, a gwna hwy'n anrhaith mewn gwlad caethiwed.

5. Paid â chuddio eu camwedd na dileu eu pechod o'th ŵydd, oherwydd y maent wedi dy sarhau di gerbron yr adeiladwyr.

6. Felly codasom yr holl fur a'i orffen hyd at ei hanner, oherwydd yr oedd gan y bobl galon i weithio.

7. Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia a'r Arabiaid a'r Ammoniaid a'r Asdodiaid fod atgyweirio muriau Jerwsalem yn mynd rhagddo, a'r bylchau yn dechrau cael eu llenwi, yr oeddent yn ddig iawn,

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 4