11. Yna ceryddais y swyddogion a dweud, “Pam y cafodd tŷ Dduw ei esgeuluso?” Ac fe'u cesglais at ei gilydd, a'u gosod yn ôl wrth eu gwaith.
12. Yna daeth holl Jwda â degwm yr ŷd a'r gwin a'r olew i'r trysordai.
13. Ac etholais yn drysoryddion Selemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Pedaia y Lefiad, a Hanan fab Saccur, fab Metaneia i'w cynorthwyo, oherwydd fe'u cyfrifid yn rhai dibynadwy, a'u dyletswydd hwy oedd rhannu i'w brodyr.
14. Cofia fi, fy Nuw, am hyn, a phaid â dileu'r daioni a wneuthum i dŷ fy Nuw a'i wasanaethau.
15. Yn y dyddiau hynny gwelais ddynion yn Jwda yn sathru gwinwryf ar y Saboth, ac yn pentyrru grawn, ac yn llwytho asynnod â gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o feichiau, ac yn eu cario i Jerwsalem ar y dydd Saboth. Rhybuddiais hwy am werthu bwyd ar y dydd hwn.
16. Daeth y Tyriaid oedd yn byw yn y ddinas â physgod a phob math o farsiandïaeth i'w gwerthu ar y Saboth i bobl Jwda yn Jerwsalem.
17. Felly ceryddais bendefigion Jwda a dweud wrthynt, “Beth yw'r drwg hwn yr ydych yn ei wneud, yn halogi'r dydd Saboth?
18. Onid dyma a wnaeth eich hynafiaid fel y daeth ein Duw â'r holl ddrwg hwn arnom ni ac ar y ddinas hon? Yr ydych yn dod â mwy eto o lid ar Israel trwy halogi'r Saboth.”
19. Yna, cyn dechrau'r Saboth, fel yr oedd yn nosi dros byrth Jerwsalem, gorchmynnais gau'r drysau, ac nad oedd neb i'w hagor cyn diwedd y Saboth. A gosodais rai o'm llanciau wrth y pyrth fel na châi dim ei gario i mewn ar y dydd Saboth.