8. A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia a'i frodyr, oedd yn gyfrifol am y moliant,
9. a Bacbuceia ac Unni, eu brodyr, oedd yn sefyll gyferbyn â hwy yn y gwasanaethau.
10. Jesua oedd tad Joiacim, ac yr oedd Joiacim yn dad i Eliasib, ac Eliasib yn dad i Joiada,
11. a Joiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Jadua.
12. Ac yn nyddiau Joiacim, dyma'r offeiriaid oedd yn bennau-teuluoedd: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
13. o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan;
14. o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;
15. o Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;
16. o Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;
17. o Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;
18. o Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;