Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 12:40-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

40. Aeth y ddau gôr oedd yn rhoi diolch i mewn i dŷ Dduw, ac yna euthum innau, a hanner yr arweinwyr gyda mi,

41. a'r offeiriaid, Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, gyda'r trwmpedau;

42. a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam ac Esra. Ac fe ganodd y cantorion o dan arweiniad Jasraheia.

43. A'r diwrnod hwnnw gwnaethant aberthau mawr a llawenychu, oherwydd yr oedd Duw wedi eu llenwi â gorfoledd; ac yr oedd y merched a'r plant hefyd yn gorfoleddu. Ac yr oedd llawenydd Jerwsalem i'w glywed o bell.

44. Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid.

45. Yr oeddent yn gofalu am wasanaeth eu Duw ac yn cadw defodau puredigaeth, fel yr oedd y cantorion a'r porthorion yn ei wneud, yn ôl gorchymyn Dafydd a Solomon ei fab.

46. Oherwydd yn yr amser gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd pen-cantorion a chanu mawl a diolch i Dduw.

47. Felly yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia yr oedd holl Israel yn rhoi cyfran ddyddiol i'r cantorion a'r porthorion. Yr oeddent yn neilltuo cyfran i'r Lefiaid, a'r Lefiaid yn neilltuo cyfran i dylwyth Aaron.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 12