Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 11:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. a Sabbethai a Josabad o benaethiaid y Lefiaid oedd yn arolygu'r gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw;

17. a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gweddïau, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun.

18. Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd dau gant wyth deg a phedwar.

19. Yr oedd y porthorion oedd yn gwylio'r pyrth, sef Accub, Talmon a'u brodyr, yn gant saith deg a dau.

20. Ac yr oedd y gweddill o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth ei hun.

21. Ond yr oedd gweision y deml yn byw ar Offel yng ngofal Siha a Gispa.

22. Goruchwyliwr y Lefiaid yn Jerwsalem, i arolygu gwaith tŷ Dduw, oedd Ussi fab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Meica, o deulu Asaff y cantorion.

23. Oherwydd yr oedd gorchymyn brenhinol ynglŷn â hwy, fod gan y cantorion ddyletswyddau penodol bob dydd.

24. Ac yr oedd Pethaheia fab Mesesabeel o deulu Sera fab Jwda yn cynghori'r brenin ar unrhyw fater yn ymwneud â'r bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 11