Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwae'r ddinas waedlyd,sy'n dwyll i gyd,yn llawn anrhaitha heb derfyn ar ysbail!

2. Clec y chwip, trwst olwynion,meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian,

3. marchogion yn ymosod,cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio.Llu o glwyfedigion,pentyrrau o gyrff,meirwon dirifedi—baglant dros y cyrff.

4. Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain,y deg ei phryd, meistres swynion,a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra,a phobloedd â'i swynion.

5. “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Codaf odre dy wisg at dy wyneb,a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd,a'th warth i'r teyrnasoedd.

6. Taflaf fudreddi drosot,gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.

7. Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”

8. A wyt yn well na Thebes,sydd ar lannau'r Neil,gyda dŵr o'i hamgylch,y môr yn fur,a'r lli yn wrthglawdd iddi?

9. Ethiopia oedd ei chadernid,a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;Put a Libya oedd ei chymorth.

10. Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.

11. Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.

12. Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigysgyda'u ffigys cynnar aeddfed;pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.

13. Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,a thân wedi ysu eu barrau.

14. Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,cryfha dy amddiffynfeydd;dos at y clai,sathra'r pridd,moldia briddfeini.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3