Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 2:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn;diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd,rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.

2. Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob,a gogoniant Israel yr un modd,er i'r anrheithwyr eu difethaa dinoethi eu canghennau.

3. Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch,a'r milwyr mewn ysgarlad,a'i gerbydau yn eu rhengoeddyn fflachio fel tân,a'r gwŷr meirch yn prancio.

4. Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd,a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored;fflachiant fel ffaglau,gwibiant fel mellt.

5. Gelwir y glewion i'r frwydr,baglant hwythau wrth ddod;brysiant at y mur,a pharatoir yr amddiffyn.

6. Agorir llifddorau'r afonydd,ac y mae'r plas mewn dychryn;

7. dygir y frenhines ymaith i gaethglud,a'i morynion yn galaru,yn cwyno fel colomennodac yn curo dwyfron.

8. Y mae Ninefe fel llyna'i ddyfroedd yn diflannu.“Aros! Aros!” meddant, ond nid yw neb yn troi'n ôl.

9. Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur!Nid oes terfyn ar y trysor,nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.

10. Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi,pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian,y lwynau'n crynu,ac wyneb pawb yn gwelwi!

11. Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc,cynefin y llew a'r llewes,lle triga'r cenawon heb eu tarfu?

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 2