Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 1:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr,ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.

9. Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD?Gwna ef ddiwedd llwyr,fel na ddaw blinder ddwywaith.

10. Fel perth o ddrain fe'u hysir,fel diotwyr â'u diod,fel sofl wedi sychu'n llwyr.

11. Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwyniodrygioni yn erbyn yr ARGLWYDD—cynghorwr dieflig.

12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Er eu bod yn gyflawn a niferus,eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant.Er imi dy flino,ni flinaf di mwyach.

13. Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat,a thorraf dy rwymau.”

14. Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat:“Ni fydd had o'th hil mwyach;torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau;a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”

15. Wele ar y mynyddoedd draed y negesyddyn cyhoeddi heddwch.Dathla dy wyliau, O Jwda,tâl dy addunedau,oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto;fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 1