Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 1:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Cryna'r mynyddoedd o'i flaen,a thodda'r bryniau;difrodir y ddaear o'i flaen,y byd a phopeth sy'n byw ynddo.

6. Pwy a saif o flaen ei lid?Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig?Tywelltir ei lid fel tân,a dryllir y creigiau o'i flaen.

7. Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng;y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.

8. Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr,ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.

9. Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD?Gwna ef ddiwedd llwyr,fel na ddaw blinder ddwywaith.

10. Fel perth o ddrain fe'u hysir,fel diotwyr â'u diod,fel sofl wedi sychu'n llwyr.

11. Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwyniodrygioni yn erbyn yr ARGLWYDD—cynghorwr dieflig.

12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Er eu bod yn gyflawn a niferus,eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant.Er imi dy flino,ni flinaf di mwyach.

13. Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat,a thorraf dy rwymau.”

14. Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat:“Ni fydd had o'th hil mwyach;torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau;a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”

15. Wele ar y mynyddoedd draed y negesyddyn cyhoeddi heddwch.Dathla dy wyliau, O Jwda,tâl dy addunedau,oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto;fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 1