Hen Destament

Testament Newydd

Micha 7:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. yn ddydd pan ddônt atat o Asyria hyd yr Aifft,ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates,o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.

13. Ond bydd y ddaear yn ddiffaith,oherwydd ei thrigolion;dyma ffrwyth eu gweithredoedd.

14. Bugeilia dy bobl â'th ffon,y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti,sy'n trigo ar wahân mewn coedwig yng nghanol Carmel;porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt.

15. Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft,fe ddangosaf iddynt ryfeddodau.

16. Fe wêl y cenhedloedd, a chywilyddioer eu holl rym;rhônt eu dwylo ar eu genaua bydd eu clustiau'n fyddar;

17. llyfant y llwch fel neidr,fel ymlusgiaid y ddaear;dônt yn grynedig allan o'u llochesau,a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw,ac ofnant di.

18. Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd,ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth?Nid yw'n dal ei ddig am byth,ond ymhyfryda mewn trugaredd.

19. Bydd yn tosturio wrthym eto,ac yn golchi ein camweddau,ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr.

20. Byddi'n ffyddlon i Jacobac yn deyrngar i Abraham,fel y tyngaist i'n tadauyn y dyddiau gynt.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 7