Hen Destament

Testament Newydd

Micha 7:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf,ac fel lloffion cynhaeaf gwin;nid oes grawnwin i'w bwyta,na'r ffigys cynnar a flysiaf.

2. Darfu am y ffyddlon o'r tir,ac nid oes neb uniawn ar ôl;y maent i gyd yn llechu i ladd,a phawb yn hela'i gilydd â rhwyd.

3. Y mae eu dwylo'n fedrus mewn drygioni,y swyddog yn codi tâl a'r barnwr yn derbyn gwobr,a'r uchelwr yn mynegi ei ddymuniad llygredig.

4. Y maent yn gwneud i'w cymwynas droi fel mieri,a'u huniondeb fel drain.Daeth y dydd y gwyliwyd amdano, dydd cosb;ac yn awr y bydd yn ddryswch iddynt.

5. Peidiwch â rhoi hyder mewn cymydog,nac ymddiried mewn cyfaill;gwylia ar dy enau rhag gwraig dy fynwes.

6. Oherwydd y mae'r mab yn amharchu ei dad,y ferch yn gwrthryfela yn erbyn ei mam,y ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;a gelynion rhywun yw ei dylwyth ei hun.

7. Ond edrychaf fi at yr ARGLWYDD,disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth;gwrendy fy Nuw arnaf.

8. Paid â llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn;er imi syrthio, fe godaf.Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch,bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi.

9. Dygaf ddig yr ARGLWYDD—oherwydd pechais yn ei erbyn—nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid,nes iddo fy nwyn allan i oleuni,ac imi weld ei gyfiawnder.

10. Yna fe wêl fy ngelyn a chywilyddio—yr un a ddywedodd wrthyf, “Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?”Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno,pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 7