1. Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod ar ben y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r bobloedd ato,
2. a daw cenhedloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob,er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrddac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
3. Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach;
4. a bydd pob un yn eistedd dan ei winwyddena than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.
5. Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.
6. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe gasglaf y cloff,a chynnull y rhai a wasgarwyda'r rhai a gosbais;
7. a gwnaf weddill o'r cloff,a chenedl gref o'r gwasgaredig,a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seionyn awr a hyd byth.