Hen Destament

Testament Newydd

Micha 2:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbrenyng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.

6. Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;peidied neb â phroffwydo am hyn;ni ddaw cywilydd arnom.

7. A ddywedir hyn am dŷ Jacob?A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?Ai ei waith ef yw hyn?Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daionii'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?

8. ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelynyn cipio ymaith fantell yr heddychol,ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.

9. Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.

10. Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.

11. Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”

12. “Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,a chynullaf ynghyd weddill Israel;gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.

Darllenwch bennod gyflawn Micha 2