Hen Destament

Testament Newydd

Micha 1:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem.

2. Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch;clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi.Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd,yn dyst yn eich erbyn.

3. Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan,yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear.

4. Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano,a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored,fel cwyr o flaen tân,fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered.

5. Am drosedd Jacob y mae hyn oll,ac am bechod tŷ Israel.Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria?Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem?

6. “Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored,yn lle i blannu gwinwydd;gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn,a dinoethaf ei sylfeini.

7. Malurir ei holl gerfddelwau,llosgir ei holl enillion yn y tân,a gwnaf ddifrod o'i delwau;o enillion puteindra y casglodd hwy,ac yn dâl puteindra y dychwelant.”

8. Am hyn y galaraf ac yr wylaf,a mynd yn noeth a heb esgidiau;galarnadaf fel y siacal,a llefain fel tylluanod yr anialwch,

Darllenwch bennod gyflawn Micha 1