Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Dyfodiad Dydd yr ARGLWYDD

1. “Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “heb adael iddynt na gwreiddyn na changen.

2. Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder â meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng.

3. Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4. “Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan.

5. “Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD.

6. Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear â difodiant.”