Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Wele fi'n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o'm blaen; ac yn sydyn fe ddaw'r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i'w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

2. Pwy a all ddal dydd ei ddyfodiad, a phwy a saif pan ymddengys? Y mae fel tân coethydd ac fel sebon golchydd.

3. Fe eistedd i lawr fel un yn coethi a phuro arian, ac fe bura feibion Lefi a'u coethi fel aur ac arian, er mwyn iddynt fod yn addas i ddwyn offrymau i'r ARGLWYDD.

4. Yna bydd offrwm Jwda a Jerwsalem yn hyfrydwch i'r ARGLWYDD, fel yn y dyddiau gynt a'r blynyddoedd a fu.

5. “Yna nesâf atoch i farn, yn dyst parod yn erbyn dewiniaid a godinebwyr; yn erbyn y rhai sy'n tyngu'n gelwyddog; yn erbyn y rhai sy'n gorthrymu'r gwas cyflog, y weddw a'r amddifad; yn erbyn y rhai sy'n gwthio'r estron o'r neilltu, ac nad ydynt yn fy ofni i,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Degymau

6. “Oherwydd nid wyf fi, yr ARGLWYDD, yn newid, ac nid ydych chwithau'n peidio â bod yn blant Jacob.

7. O ddyddiau eich hynafiaid, troesoch oddi wrth fy neddfau a pheidio â'u cadw. Dychwelwch ataf fi, a dychwelaf finnau atoch chwi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “A dywedwch, ‘Sut y dychwelwn?’

8. A ysbeilia rhywun Dduw? Eto yr ydych chwi yn fy ysbeilio i. A dywedwch, ‘Sut yr ydym yn dy ysbeilio?’ Yn eich degymau a'ch cyfraniadau.

9. Fe'ch melltithiwyd â melltith am eich bod yn fy ysbeilio i, y genedl gyfan ohonoch.

10. Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhÅ·. Profwch fi yn hyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth.

11. Ceryddaf hefyd y locust, rhag iddo ddifetha cynnyrch eich tir a gwneud eich gwinwydden yn ddiffrwyth,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

12. “Yna bydd yr holl genhedloedd yn dweud, ‘Gwyn eich byd’, oherwydd byddwch yn wlad o hyfrydwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Duw yn Addo Trugarhau

13. “Bu eich geiriau'n galed yn f'erbyn,” medd yr ARGLWYDD, “a dywedwch, ‘Beth a ddywedasom yn dy erbyn?’

14. Dywedasoch, ‘Ofer yw gwasanaethu Duw. Pa ennill yw cadw ei ddeddfau neu rodio'n wynepdrist gerbron ARGLWYDD y Lluoedd?

15. Yn awr, yr ydym ni'n ystyried mai'r trahaus sy'n hapus, ac mai'r rhai sy'n gwneud drwg sy'n llwyddo, ac yn dianc hefyd er iddynt herio Duw.’ ”

16. Yna, fel yr oedd y rhai a ofnai Dduw yn siarad â'i gilydd, sylwodd Duw a gwrando, ac ysgrifennwyd ger ei fron gofrestr o'r rhai a oedd yn ofni'r ARGLWYDD ac yn meddwl am ei enw.

17. “Eiddof fi fyddant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “fy eiddo arbennig ar y dydd pan weithredaf; ac arbedaf hwy fel y mae dyn yn arbed ei fab, a'i gwasanaetha.

18. Yna, unwaith eto, byddwch yn gweld rhagor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr un sy'n gwasanaethu Duw a'r un nad yw.”