Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn awr, offeiriaid, i chwi y mae'r gorchymyn hwn.

2. “Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.

3. Wele fi'n torri ymaith eich braich ac yn taflu carthion i'ch wynebau, carthion eich uchelwyliau, ac yn eich troi ymaith oddi wrthyf.

4. Yna cewch wybod imi anfon y gorchymyn hwn atoch, er mwyn parhau fy nghyfamod â Lefi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

5. “Fy nghyfamod ag ef oedd bywyd a heddwch; rhoddais hyn iddo er mwyn iddo ofni, ac ofnodd yntau fi a pharchu fy enw.

6. Gwir gyfarwyddyd oedd yn ei enau, ac ni chaed twyll ar ei wefusau; rhodiai gyda mi mewn heddwch ac uniondeb, a throdd lawer oddi wrth ddrygioni.

7. Y mae gwefusau offeiriad yn diogelu gwybodaeth, ac y mae pawb yn ceisio cyfarwyddyd o'i enau, oherwydd cennad ARGLWYDD y Lluoedd yw.

8. Ond troesoch chwi oddi ar y ffordd, a gwneud i lawer faglu â'ch cyfarwyddyd; yr ydych wedi diddymu cyfamod Lefi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

9. “Yr wyf finnau wedi eich gwneud yn ddirmygus ac yn waradwyddus gan yr holl bobl, yn gymaint ag ichwi beidio â chadw fy ffyrdd, ac ichwi ddangos ffafr yn eich cyfarwyddyd.”

Anffyddlondeb y Bobl

10. Onid un tad sydd gennym oll? Onid un Duw a'n creodd? Pam felly yr ydym yn dwyllodrus tuag at ein gilydd, gan ddifwyno cyfamod ein hynafiaid?

11. Bu Jwda'n dwyllodrus, a gwnaed pethau ffiaidd yn Israel ac yn Jerwsalem; oherwydd halogodd Jwda y cysegr a gâr yr ARGLWYDD trwy briodi merch duw estron.

12. Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith o bebyll Jacob pwy bynnag a wna hyn, boed dyst neu ddiffynnydd, er iddo ddwyn offrwm i ARGLWYDD y Lluoedd.

13. Dyma beth arall a wnewch: yr ydych yn tywallt dagrau ar allor yr ARGLWYDD, gan wylo a galaru am nad yw ef bellach yn edrych ar eich offrwm nac yn derbyn rhodd gennych.

14. Yr ydych yn gofyn, “Pam?” Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod.

15. Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid.

16. “Oherwydd yr wyf yn casáu ysgariad,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.

Dydd y Farn yn Agos

17. Yr ydych wedi blino'r ARGLWYDD â'ch geiriau. Gofynnwch, “Sut yr ydym wedi ei flino?” Trwy ddweud, “Y mae pawb sy'n gwneud drygioni yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac y mae'n fodlon arnynt”; neu trwy ofyn, “Ple mae Duw cyfiawnder?”