14. Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm.
15. Yna daeth ag offrwm dros y bobl. Cymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, a'i ladd a'i gyflwyno'n aberth dros bechod, fel y gwnaethai gyda'r cyntaf.
16. Yna daeth â'r poethoffrwm a'i gyflwyno, yn ôl y drefn.
17. Daeth hefyd â'r bwydoffrwm a chymryd dyrnaid ohono, a'i losgi ar yr allor ynghyd â'r poethoffrymau boreol.
18. Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
19. Ond am fraster yr ych a'r hwrdd, y gynffon fras, yr haen o fraster, yr arennau, a gorchudd yr iau,
20. gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor.
21. Chwifiodd y brestiau a'r glun dde yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd Moses.
22. Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a'u bendithio; ac ar ôl cyflwyno'r aberth dros bechod, y poethoffrwm a'r heddoffrwm, daeth i lawr o'r allor.
23. Yna aeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod; a phan ddaethant allan a bendithio'r bobl, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl bobl.
24. A daeth tân allan o ŵydd yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm a'r braster ar yr allor. Pan welodd yr holl bobl hyn, gwaeddasant mewn llawenydd a syrthio ar eu hwynebau.