Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8:14-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Yna daeth Moses â bustach yr aberth dros bechod, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.

15. Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi â'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti.

16. Cymerodd Moses hefyd y braster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'r braster arnynt, a'u llosgi ar yr allor.

17. Ond llosgodd y bustach, ei groen, ei gnawd a'r gweddillion y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

18. Yna cyflwynodd hwrdd y poethoffrwm, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.

19. Lladdodd Moses yr hwrdd a lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.

20. Torrodd yr hwrdd yn ddarnau a llosgi'r pen, y darnau a'r braster.

21. Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a llosgodd yr hwrdd i gyd ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

22. Yna cyflwynodd yr hwrdd arall, sef hwrdd yr ordeiniad, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ei ben.

23. Lladdodd Moses yr hwrdd a chymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.

24. Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, a rhoddodd beth o'r gwaed ar gwr isaf eu clustiau de, ar fodiau eu llaw dde ac ar fodiau eu troed de, a lluchiodd waed ar bob ochr i'r allor.

25. Cymerodd y braster, y gynffon fras, yr holl fraster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde.

26. Yna o'r fasgedaid o'r bara croyw oedd gerbron yr ARGLWYDD cymerodd Moses deisen o fara croyw, ac un arall wedi ei chymysgu ag olew, ac un fisged, a'u gosod ar y braster ac ar y glun dde.

27. Rhoddodd y cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 8