Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 8:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Cymer Aaron a'i feibion, a hefyd y dillad, yr olew eneinio, bustach yr aberth dros bechod, y ddau hwrdd a'r fasgedaid o fara croyw,

3. a chasgl yr holl gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod.”

4. Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac ymgasglodd y gynulleidfa wrth ddrws pabell y cyfarfod.

5. Dywedodd Moses wrth y gynulleidfa yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneud.

6. Yna gwnaeth i Aaron a'i feibion ddod ymlaen, a golchodd hwy â dŵr.

7. Rhoddodd y wisg am Aaron, clymu'r gwregys am ei ganol, ei wisgo â'r fantell a rhoi'r effod amdano; rhoes wregys cywrain yr effod amdano a'i gau.

8. Rhoddodd y ddwyfronneg amdano, a rhoi'r Wrim a'r Twmim yn y ddwyfronneg.

9. Yna rhoddodd dwrban ar ben Aaron, a gosod arno'r dorch aur, y goron sanctaidd, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

10. Yna cymerodd Moses yr olew eneinio, ac eneiniodd y babell a phopeth ynddi, a thrwy hynny eu cysegru.

11. Taenellodd beth o'r olew seithwaith ar yr allor, ac eneiniodd yr allor a'i holl offer, y noe hefyd a'i gwaelod, i'w cysegru.

12. Tywalltodd beth o'r olew eneinio ar ben Aaron, ac eneiniodd ef i'w gysegru.

13. Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 8